Mae National Grid Electricity Transmission (NGET) yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion cychwynnol ar gyfer is-orsaf newydd ger Llandyfaelog. Mae rhagor o wybodaeth am ein cynigion ar gael ar wefan ein prosiect nationalgrid.com/llandyfaelog
Dylai cymunedau elwa o gynnal seilwaith trawsyrru trydan newydd. Er mwyn ein helpu i ddarparu rhaglenni budd cymunedol sy’n gweithio i’ch ardal chi, rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn. Rydyn ni eisiau deall beth sy’n bwysig i chi, a lle gallai cronfeydd budd cymunedol sicrhau manteision tymor hir, gan gynnwys drwy gynlluniau grant cymunedol a buddsoddi mewn grwpiau cymunedol neu drwy bartneriaethau rhanbarthol.Mae’r ffordd rydyn ni’n darparu cyllid budd cymunedol yn seiliedig ar ganllawiau’r llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025. Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r mathau o brosiectau seilwaith a ddylai ddarparu cronfeydd budd cymunedol, a lefel y cyllid a ddylai fod ar gael. Mae hyn yn seiliedig ar y canlynol: