Mae gan National Grid ymrwymiad hirdymor i'r cymunedau rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw, ac rydym am sicrhau manteision parhaol i'r bobl a'r lleoedd sy'n cynnal ein seilwaith
Mae National Grid Electricity Transmission (NGET) yn bwriadu adeiladu Is-orsaf newydd ym Mhenrhos. Mae’r gwaith hwn yn golygu y byddwn yn darparu Cronfa Gymunedol o £530,000.Wedi'i lunio gan y gymuned, ar gyfer y gymuned, bydd y gronfa hon yn cael ei chynllunio i adlewyrchu anghenion lleol a'u datblygu yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.Bydd eich ymateb i'r arolwg hwn yn ein helpu i ddeall beth sydd bwysicaf i chi a sut y gall y cyllid gael effaith gadarnhaol a pharhaol. Am ragor o wybodaeth am is-orsaf newydd Penrhos, ewch i'n gwefan.Bydd yr arolwg yn cau ar 20 Mai 2026.